Seminar Adrannau 62 a 85 Eryri
Cefndir
Yn ystod cyfarfod Grwp Swyddogion y Parciau Cenedlaethol ar 16 Hydref 2007, penderfynwyd y byddai pob un o Barciau Cenedlaethol Cymru yn cynnal seminar i ddilyn y seminar Cenedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2007.
Cynigiwyd y byddai pob un o’r Parciau’n canolbwyntio ar un sector partneriaeth. Yn achos Eryri, byddai’n canolbwyntio ar y Cyfleustodau.
Felly, aethpwyd ati i drefnu seminar ar gyfer 24 Mehefin 2008. Wrth fynd ati i wneud y trefniadau, fodd bynnag, gwelwyd nad oedd yn bosibl cyfyngu’r gynulleidfa i’r Cyfleustodau’n unig, gan mai’r elfen allweddol i gyflawni Adran 62 yw partneriaeth. Mae gwaith y Cyfleustodau’n gorgyffwrdd gymaint â gwaith cyrff eraill, yn enwedig awdurdodau lleol (er enghraifft, trwy fanteisio ar gynlluniau ffordd i danddaearu gwifrau uwchben), felly penderfynwyd y byddai’r Seminar yn ddigwyddiad mwy cyffredinol a fyddai’n cynnwys y darpar bartneriaid amlycaf, a pheidio â cholli golwg ar y nod trwy gynnwys yr holl gyrff perthnasol a bennwyd yn yr arweiniad.
Gwelwyd llawer iawn o ewyllys da gan bawb a oedd yn ymwneud â’r mater yn ystod y broses o drefnu’r Seminar. Fe ddaeth hynny i’r amlwg yn niddordeb gwirioneddol pobl yn y pwnc ynghyd â pharodrwydd i fynychu a chyfrannu.
Bu i’r Seminar hefyd ymestyn ei gwmpas trwy ymdrin ag Adran 85 o’r Ddeddf CGaHT, a thrwy gynnwys AOHNE yng Ngogledd Cymru. Yn anffodus, ni fu’n bosibl pennu enghreifftiau o arfer da o’r AOHNE nad oedd eisoes yn cael eu cyflawni gan gyfranogwyr eraill, ond roedd eu hymglymiad yn gam pwysig tuag at gynhwysiad ehangach.
Negeseuon Allweddol a Casgliad
Bu’r Seminar yn llwyddiant. Roeddem wedi dewis hwylusydd i arwain y digwyddiad ac i reoli unrhyw drafodaethau, a gweithiodd hynny’n dda. Atodir copi o raglen y dydd ynghyd â rhestr o ddirprwyon.



