Hamddena a Chyfrifoldeb Seminar - Adroddiad

14 Tachwedd yn y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair Ym Muallt

Mae’r prif themâu a phryderon y rhai oedd yn cyflwyno a’r rhai oedd yn bresennol wedi’u hamlinellu isod.

Prif rinweddau gweithgaredd Rheoli a hyrwyddo
1.Mae ganddo fanteision iechyd, yn anymwthiol, yn gynhenid ddim yn llygru ac yn seiliedig ar fwynhad gwirioneddol o adnoddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Hyrwyddo cyffredinol a'r lleiaf posibl o reoli, oni bai fod maint y gweithgaredd yn creu trafferthion neu ei fod yn cael ei gynnal yn fasnachol. Gallai enghreifftiau fod yn gerdded, rhwyfo môr a nofio.
2.Nodweddion tebyg i’r rhai uchod cyn belled â bod y cyfranogwyr yn gyfrifol ac yn dewis eu lleoliad / tymor yn ddoeth ond gallai’r gweithgaredd greu trafferthion. Efallai y bydd yn rhaid cynnal y gweithgaredd mewn parthau neu ddatblygu codau ymddygiad a chydlynu’n agos rhwng defnyddwyr a sefydliadau cadwraeth. Gallai’r gweithgaredd gael ei hyrwyddo cyn belled â bod y mentrau sy’n gysylltiedig â’r hyrwyddo wedi’u hymrwymo i ymarfer da. Gallai enghreifftiau fod yn ddringo, canwio a arfordirio.
3.Efallai y ceir, neu na cheir, manteision iechyd ond gallai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd a / neu gael effaith amgylcheddol os yw'n cael ei gynnal mewn rhai ffyrdd neu mewn rhai mannau lle gallai  defnyddwyr eraill gwyno yn ei gylch. Os oes cysylltiad da rhwng cyfranogwyr / darparwyr a hyfforddwyr mae’n bosibl annog ymarfer da a gallai’r gweithgaredd gael ei hyrwyddo, yn amodol ar gynnydd mewn ymarfer da a chadw’r gweithgareddau ar rai safleoedd sy’n cael eu monitro. Fel arall cyfyngir ar hyrwyddo. Gallai enghreifftiau fod yn deithiau cychod bywyd gwyllt, syrffio barcud a merlota traeth.
4.Efallai y ceir, neu na cheir, manteision iechyd ond o ran ei natur neu ei raddfa mae’n cyfaddawdu adnoddau arbennig y Parc Cenedlaethol a / neu nodweddion safleoedd dynodedig. Gallai fod yn peryglu diogelwch y cyhoedd a gallai ddenu cwynion oddi wrth ddefnyddwyr eraill. Fel rheol moduron yw’r rhain a chyda phroblemau cynaliadwyedd cysylltiedig. Ni fydd gweithgareddau hyn yn cael eu hyrwyddo. Byddant yn cael eu gwrthwynebu, eu rhoi mewn parthau neu yn cael eu rheoli’n gadarn ar dir cyhoeddus. Enghreifftiau yw defnydd hofranlong, beiciau cwad ar dir cyhoeddus a digwyddiadau cychod cyflym.

Yn olaf, y thema gydol y dydd oedd cyfathrebu a rheoli yn hytrach na gorfodi. Dyfynnwyd enghreifftiau megis cytundebau Siartr Awyr Agored Sir Benfro a Beiciau Mynydd Eryri ond er y derbynnir hyn fel y ffordd orau ymlaen, roedd teimlad y byddai'r cytundebau hyn angen cefnogaeth statudol mewn mannau pe byddai ond er mwyn sicrhau’r mwyafrif sy’n cadw at y rheolau na fyddai'r ychydig sy’n eu torri yn cael eu traed yn rhydd. Yn aml mae’r awdurdodau rheoli mewn sefyllfa wan iawn wrth reoli gweithgareddau o gymharu ag adnoddau. Mae hynny’n ei gwneud yn bwysicach byth fod hyrwyddo, yn ogystal â hamdden, yn cael ei wneud mewn modd cyfrifol.

Roedd yn ymddangos fod y diwrnod wedi cael derbyniad da a bod Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn agored iawn i gael rhagor o sgyrsiau manwl a rhannu proifad er mwyn gallu rheoli a darparu’n well ar gyfer pobl mewn cefn gwlad.

capcc

Manylion cyswllt

Parciau Cenedlaethol

Cymru

126 Stryd Bute
Caerdydd
CF11 7AG

Rhif ffôn: 029 2049 9966

Ebost