Hamddena a Chyfrifoldeb ar yr Arfordir ac yng Nghefn Gwlad
14 Tachwedd yn y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair Ym Muallt
Fe ofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru i drefnu seminar ar y mater o reoli arfordir a chefn gwlad Cymru ar gyfer defnydd cynaliadwy - mae pawb yn deall yr angen i gael mwy o bobl i fynd allan ac i fod yn rhagweithiol, ond sut ydym ni’n gwneud yn siwr nad ydym ni’n creu difrod i’r llefydd rydyn ni i fod i’w hamddiffyn?
Fe noddwyd y seminar rhad ac am ddim yma gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ac fe groesawyd staff o amryw eang o sefydliadau, sydd â diddordeb mewn hamddena cynaliadwy yn yr amgylchedd cefn gwlad. Fe wahoddwyd rheolwyr safleoedd a thraethau, coedwigwyr a wardeiniaid, staff hyrwyddo twristiaeth sydd eisiau marchnata mewn ffordd gynaliadwy, a gweithredwyr sy’n gwneud defnydd o’r cefn gwlad ar gyfer eu cleientiaid i fynychu. Fe fynychodd oddeutu 60 o bobl broffesiynol y seminar.
Fe roddodd y diwrnod y cyfle i rannu profiadau. Fe roddodd siaradwyr uwch o Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru drosolwg ac adborth o fentrau ymarferol diweddar a ariannwyd gan LlCC, sy’n gysylltiedig â Strategaeth Amgylcheddol Cymru. Yn ogystal, fe roddodd gyfle i bobl broffesiynol i gysylltu gyda chydweithwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u meysydd gwaith, a hefyd, mewn disgyblaethau cysylltiedig.
Gellir edrych ar yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau a wnaethpwyd ar y diwrnod, drwy bwyso ar y dolenni ar y chwith.

