2009 seminar aelodau blynyddol
Yn y Future Inn, Caerdydd, Ddydd Iau y 5ed o Dachwedd 2009
Cadeirydd: Sue Essex
Sesiwn 1: Golwg yn Ôl
Y sialensiau a’r cyfleoedd sy’n wynebu awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru (Yn Llygad y Storm) Steve Thomas - Cyfarwyddwr, CLlLC(Ffeil fawr sy'n fwy na 1MB)
Y Mesur Llywodraeth Leol Alan Morris, Partner Ymgysylltu a Rheolwr Perthynas, Swyddfa Archwilio Cymru
Sesiwn 2: Gweithdai
Senarios gwleidyddol yn y dyfodol a’u heffaith ar Gymru Llinos Price - CCGC(Ffeil fawr sy'n fwy na 1MB) a Tim Peppin - CLlLC
Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer ardaloedd gwarchodedig – addas ar gyfer y dyfodol? Peter Ogden, CPRW(Ffeil fawr sy'n fwy na 1MB) a James Shorten
Sesiwn 3: Sesiwn Iawn
Casgliadau, sialensiau a chyfleoedd ar gyfer y 60 mlynedd nesaf
Yr Athro Ian Mercer
Canlyniadau, heriau, cyfleoedd ar gyfer y 60 mlynedd nesaf. 5 pwynt, 3 ynghylch pobl:
- Rydym yn diffinio cymunedau lleol fel ‘EIN’ pobl. ‘Rydym wedi pryderu erioed, ond mae’n rhaid i ni ymddangos fel ein bod ni’n pryderu mwy: am ffermwyr i gychwyn, ond hefyd am eu cefnogwyr, contractwyr, gyrwyr JCB ac ati (Papur newydd Dinefwr yn adrodd ar Tir Cymen ac wedi’i amgylchynu gan hysbysebion i arbenigwyr). Rydym angen ysgogi mwy o gymunedau hunangynhaliol gweithredol
- 'Pobl eraill’, y cyfan o’r gweddill, addysg, heb ei alw’n hynny. Mae angen atgyfodi math John Barrett o gyfathrebu yn Broadhaven
- Mae’n angen i’n ‘meistri’ gwleidyddol gael eu haddysgu hefyd, fel y dangoswyd o ran Aelodau’r Cynulliad y noson flaenorol. Dangoswyd diniweidrwydd neu hyd yn oed anwybyddiaeth o’r byd cefn gwlad go iawn, ag agweddau ofnadwy o hen ffasiwn i ni, ynghylch yr hyn sydd ei angen.
- Tra ein bod ni’n ymdrechu i gael y tirwedd gyfan wedi’i pharchu, bydd angen i Ardaloedd Gwarchodedig barhau fel bannau am amser hir. Gallai’r 3 Parc Cenedlaethol arbenigo yn eu harweinyddiaeth - mynyddoedd, yr arfordir a’r ‘gweddill’. Trueni na fyddai Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cynhyrchu Map tir yn fy nydd i.
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eu hunain: amddiffyn y llinell flaen - mae dosbarthu wardeiniaid a gwybodaeth yn bwysig iawn. 'Os nad yw wedi malu, peidiwch â’i drwsio' (am y system). Os oes rhaid i chi fod yn ‘ofnadwy o uchelgeisiol’, ‘llymder graddol wedi’i danategu gan ysbryd hael’ meddai rhywun. Canlyniadau Parciau Cenedlaethol? Beth ydynt - cynnal y safon, yr hud, y ffactor wow.
Diolch yn fawr am eich ymroddiad i’ch rolau, cadwch iddo fynd.

