Sesiwn 4
John Lloyd Jones – Cadeirydd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Roedd hi’n ddiddorol gweld mai teitl y gynhadledd hon yw ‘Rôl y Parciau Cenedlaethol yn y Gymru Newydd’, gan fod nifer o bobl yn cysylltu Parciau Cenedlaethol gyda’r hen Gymru, a hefyd yr is-deitl ynglyn â sut y byddwch yn mynd ati i gwrdd â goblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yng nghyd-destun goblygiadau Llywodraeth Cymru. Rwy’n cael fy nhemtio i anghofio am y darn olaf gan mai problemau tymor byr yw pob llywodraeth ynde?
Rwy’n cael fy ysbrydoli gan yr agwedd hon gan eich bod yn tyrchu yn llawer dyfnach na dim ond diogelu’r gorffennol gan edrych hefyd ar eich goblygiadau rhyngwladol yn hytrach na’ch swyddogaethau lleol. Felly beth am i mi gychwyn gyda’r pictiwr mawr. Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol fod yna ddadl hir a chwerw ynglyn â’r cwestiwn - a ddylai Parciau Cenedlaethol gynnwys pobl? Mae hon yn ddadl ryngwladol gan UNESCO, parciau gwyllt Categori 2 yng Nghanada sy’n wfftio’r Parciau Cenedlaethol Categori 5 sy’n cynnwys pobl. Ni allwn ymddwyn fel hynny yma; mae gennym boblogaeth o tua 70 miliwn o bobl ar ynys fechan ac mae hi’n amhosib ail drefnu’n bodolaeth, ond o leiaf gallwn fynd ati i ddangos sut y gall dyn a natur gyd-fyw. Yn wir, buaswn yn mynd un cam ymhellach, Parciau Cenedlaethol yw’r arbrawf gorau ar gyfer y meddylfryd hwn ac mae’n gweddu’n fendigedig gyda dogfen Cymru’n Un ynglyn ag ymdrin ag anghenion ardaloedd gwledig anghysbell. Arian datblygu cynaladwy - dyma gyfle. Oes mae angen diwygio rhyw fymryn arno; roedd y cynllun yn ddyfeisgar iawn ar y cychwyn ond y peth braf amdano yw ei fod yn goroesi methiant gan roi cyfle i chi arbrofi gyda phethau gan ddysgu cymaint drwy fethiant ag y gwnewch drwy lwyddiant.
Ond mae her yma - sut mae mynd ati i dynnu’r sector fechan breifat o fewn y gronfa datblygu cynaladwy? A beth yw rôl y Parciau Cenedlaethol yn y cynllun biosffer? Dynodiad gan UNESCO yw biosffer, mae gennych Eryri yma fel biosffer wrth eich traed yn seiliedig ar ffîn ddeheuol Eryri ac mae’n fodel ddiddorol. Ardal ganolig wedi ei ddynodi gan Ewrop ac yn ardal o gadwraeth arbennig, wedi ei ddynodi hefyd gan y DU ac yn symudol ac yn hyblyg gan gymryd mantais economegol ac amgylcheddol o’r ddwy ran fewnol. Ac mae’r holl beth yn gweithio drwy gyfraniadau’r cyhoedd a’r gymuned. Nid oes statws cyfreithiol gaeth yn perthyn iddo ond mae ganddo gryn rym yn rhyngwladol. Mae Biosffer Dyfi yn ail unig yn y DU ar ôl Branson Burrows yn Nyfnaint. Os anghofiwch chi am y syniad o hierarchaeth Parciau Cenedlaethol, os anghofiwch chi am Gategori 2, nid w’n well na Chategori 5, lle mae hyn yn eich gosod chi yn eich perthynas â’r AONB? Mae’r Gwyr yn debyg iawn i Sir Benfro, mae Dyffryn Gwy yn agos iawn i fannau Brycheiniog, mae Pen Llyn yn rhannu’r un ffin awdurdod lleol ag Eryri a Chlwyd. Maent i gyd yn agos i’w gilydd. Nawr, os edrychwn ni ar agenda Beecham a Chreu’r Cysylltiadau, beth yw eich cysylltiadau o ddydd i ddydd? Mae gennych chi dipyn mwy o adnoddau - pa gymorth ydych chi’n ei roi? Wedi’r cwbwl, rydych i gyd yn rhan o’r un teulu o dirwedd yn cael e ddiogelu sy’n wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr gan fod yr AONBs yng Nghymru yn rhan o’r un teulu o ardaloedd a ddiogelir. Mae hyn yn rhoi cyfle i fod yn ddyfeisgar, gan ddangos sut mae gwneud cysylltiadau.
Beth am symud ymlaen at her fwy sylweddol? Cymru’n Un a thaclo Newid Hinsawdd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf mae’n debygol y byddwn yn wynebu’r newid mwyaf mewn defnydd tir o fewn cof ac ers tair cenhedlaeth efallai. Nid yn unig bydd hyn yn digwydd cyn bo hir, mae’n digwydd nawr. Tybiaf fod pethau wedi dechrau digwydd ym Mhenfro yn barod. Mae tri phrif beth yn gyrru’r broses. Yn gyntaf Newid Hinsawdd ac yn gysylltiedig â hyn y tywydd, mwy o lifogydd, sychder a’r effaith ar brisiau nwyddau ar draws y byd. Mae amaethu yn Awstralia wedi cau i lawr fwy na heb, nid yw’n gweithredu o gwbwl ar hyn o bryd. Effaith hyn yw pris llawer uwch am lefrith a grawnfwydydd - nid problem dros dro yw hon. Nid tywydd yn unig sydd o dan sylw yma; gyda newid hinsawdd rhaid hefyd ystyried dau ffactor arall. Yn gyntaf olew - beth all gymryd lle cemegau petro? Haul wedi ei botelu dros filiynau o flynyddoedd yw’r diwydiant olew wedi’r cwbwl ac rydym bron â’i wagio, neu o leiaf wedi defnyddio dros hanner beth oedd ar ôl ddwy ganrif yn ôl. Bydd angen i ni yn hytrach ddefnyddio carbon planhigion ar gyfer ynni. Mae gennym ffermydd gwynt a biomas ac mae’r ddadl yma yn fwy chwyrn. Mae ffermydd gwynt yn creu dadleuon anghyson ac mae’r lefelau o ynni a gynhyrchi ganddynt hefyd yn anghyson. Technoleg syml iawn yw biomas gan dyfu rhywbeth ar gyfer ei losgi. Efallai y cawn atebion technolegol gwell ymhen degawd, ond sut mae torri celloedd seliwlos i lawr er mwyn rhyddhau tanwydd bio a fferyllol.
Y drydedd elfen yw newid demograffig. Bellach mae poblogaeth y byd wedi cyrraedd 6 biliwn ond erbyn y flwyddyn 2050 bydd y cyfanswm wedi cyrraedd 9 biliwn. Er hyn, nid dyma’r unig ffactor; mae economïau India a Tsieina yn bwysig hefyd gan eu bod yn dechrau newid eu diet o reis a grawn i fwydydd llaeth a phrotein cig. Mae mwy o alw ar ddefnydd tir hefyd gyda llaeth yn codi o 16c y litr i 30c y litr ac yn parhau i godi, a grawnfwydydd yn dyblu o £80 y dunnell i £200 y dunnell. Wrth i brisiau gwerthiant godi fel hyn llwm iawn yw dyfodol cynlluniau amaeth-amgylchedd. Yn waeth na dim, wrth i’r dylanwadau economaidd hyn gynyddu rydym yn dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol i’n bodolaeth ni fel pobl. Mae’r amgylchedd yn rhoi i ni awyr iach, dwr glân a buddion naturiol eraill. Mae’n hawdd dadansoddi buddion economaidd peilliaid naturiol fel y wenynen ond sut mae canfod buddion economaidd elfennau megis llonyddwch a lles ysbrydol? Ond, wrth gwrs, gwerthoedd creiddiol yw’r rhain ac yn rhesymau dros fodolaeth Parciau Cenedlaethol.
Felly, beth yw’r cysylltiad rhwng hyn ac o leiaf dau o’n Parciau ni? Wel, mae Eryri a’r Bannau yn eistedd ar y gronfa fwyaf o garbon yng Nghymru, sef mawn yr ucheldir. Rwy’n cofio i darged o leihad o 3% o garbon gael ei osod erbyn 2011. Y gwirionedd yw y gellwch newid pob un bwlb golau yng Nghymru, dyblu’r nifer ac eto a phitw fyddai’r effaith ar y lefelau carbon os parhewch yr un pryd i beidio â rheoli mawn yn effeithiol a chaniatáu i garbonau planhigion gael eu rhyddhau.
Dyma’r gwirionedd i ni ac yn her anferthol i’r tri Pharc, i bawb, sef sut y dylid datblygu cynlluniau rheoli tir sy’n ymdrin â’r materion hyn. Y fantais fawr yw bod gennym dri Pharc, yn gyrff pwrpasol all fynd ati i brofi’r agweddau hyn.
Ddoe roeddwn yn annerch cynhadledd Rural Economy and Land Use (RELU). Syniad yw RELU sy’n rhoi cymdeithasegwyr, ecolegwyr, economegwyr a biolegwyr gyda’i gilydd er mwyn creu gwaith ar y cyd. Wn i ddim pam y cefais i wahoddiad, ond dyna ni.
Mae RELU yn chwilio am atebion dyfeisgar ac fe roddaf enghraifft i chi sy’n berthnasol i waith y Parciau. Roeddwn yn siarad am hyn yn ddoe ac mae’n ymwneud ag IGER (Institute of Grassland Research) Mae gan IGER orsaf ymchwil ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ger Pontsenni. Ac wrth gwrs mae atal colled bioamrywiaeth erbyn 2010 yn darged arall gan y llywodraeth. Y broblem yw mynd ag anifeiliaid traddodiadol i’r math hwn o dir ar adegau penodol o’r flwyddyn, gan fod hyn yn cynnwys elfen uchel o lafur. O ble y cewch chi’r llafur teulu i wneud hyn? Nid oes eu hangen drwy’r amser, dim ond ar adegau penodol. Ar hyn o bryd wrth gwrs dim ond un genhedlaeth sydd gennym, fel arfer yn byw ar y fferm. Sut gallwn ni ganiatáu’r potensial o addasu adeiladau traddodiadol i greu tai parhaol i deuluoedd o’r ail a’r drydedd genhedlaeth yr un pryd? Byddai’n creu system gofal plant o leiaf, ar ei union. Ond. O gofio’r ddogfen Ffermio i’r Dyfodol, sy’n nodi mai un o’r targedau oedd cadw cymaint o deuluoedd ffermio â phosib ar y tir, nid o angenrheidrwydd yn ennill bywoliaeth o’r tir ond o leiaf yn rhan o’r strwythur ffermio. Sut mae troi’r adeiladau traddodiadol hyn yn aneddiadau parhaol? Gallaf ddeall eich bod yn gyndyn yn hyn o beth ac felly hefyd y swyddogion cynllunio oherwydd, wrth ganiatáu hyn, rydych yn colli rheolaeth ar ddatblygiad hir dymor yr adeiladau. Bydd rhai aelodau yn dadlau dros amgylchiadau arbennig ac rwy’n ymwybodol o’r dechneg hon - rwy’n rhan o’r Parc Cenedlaethol ers naw mlynedd ac ni ellwch fy nhwyllo i. Rydym i gyd yn gwybod nad yw cytundebau Adran 106 mor gryf ag y dylent fod. Er hyn, petai cytundebau Adran 106 cadarn yn cael eu creu yna gellid dadlau mai’r ffordd orau o gynyddu bioamrywiaeth yn yr ucheldir fyddai trwy gytundebau cynllunio Adran 106.
Heb ddulliau dyfeisgar fel hyn mae hi’n anodd dod o hyd i’r atebion, ond yn sicr mae hi’n bosib i’r Parciau Cenedlaethol wneud y cysylltiadau hyn. Rydych yn llwyddo ar faterion eraill ac mae sawl her yma hefyd. Sut mae creu adeiladau newydd sy’n effeithlon o ran ynni gyda dyluniadau dyfeisgar heb fygwth safonau eraill yn ymwneud â phensaernïaeth?
Sut i feithrin caffaeliad lleol - mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y mae’r Bannau Brycheiniog wedi bod yn ei wneud yn Nhalybont, Brynbuga a Chrucywel gyda bwydydd tafarndai lleol. Y farn gyffredin yn amlwg yw bod angen galw pob un o’r tafarndai hyn yn ‘The Unicorn’. Sut mae llwyddo i ddarparu mynediad, yn enwedig mynediad i’r arfordir? Yr ateb yw gwneud y cysylltiadau. Ond wedi meddwl am y peth, nid dim ond gwaith un awdurdod lleol arbenigol ydi hyn, mae’r gwaith yn fwy fel ASPB ond dydw i ddim am fentro i lawr y lôn honno. Ond mae angen edrych ymlaen, rwyf wedi amlinellu rhai o’r heriau ac mae heriau eraill yn bodoli hefyd. Mae gennym dalcen caled gyda’n cyfarwyddyd cynefinoedd ac i sicrhau fod y safleoedd hyn yn cael eu rheoli’n dda. Mae nifer fawr o’r safleoedd hyn y tu mewn i Barciau Cenedlaethol. Mae gennym warchodfeydd natur genedlaethol ac rydym yn ymgeisio i greu trefniant o wardeinio ar y cyd. Yn rhai o’r Parciau Cenedlaethol hyn penodwyd warden Parc Cenedlaethol, un arall o’r Cyngor Cefn Gwlad a hyd yn oed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond, yr unig ffordd y gallwn sicrhau gweithio ar y cyd yw drwy gael corff proffesiynol sy’n cynrychioli’r wardeiniaid gan sicrhau fod pawb y gweithio tuag at yr un safonau.
Sesiwn 4 – Prif Anerchiad
Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai
Diolch yn fawr iawn am y croeso caredig iawn ac mae’n bleser o’r mwyaf gennyf fod yn bresennol yma heddiw. Hwn yw’r cyfle cyntaf i mi eich cyfarch fel aelodau o’r tri Pharc Cenedlaethol. Rydych yn gwneud gwaith arbennig o reoli’r ardaloedd pwysig yma ar ran y genedl.
Gwelaf ddigwyddiadau fel hyn heddiw yn bwysig er mwyn eich helpu chi i rannu syniadau ac rwy’n siwr eich bod wedi bod yn gwneud llawer iawn o hyn dros y deuddydd diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfleoedd y cewch chi i weithio yn llawer iawn agosach gyda’ch gilydd ac i ni oll weithio yn agosach er budd Cymru gyfan. Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i roi’r anerchiad sy’n cloi eich cynhadledd. Rwy’n sicr y cawsoch ddigwyddiad llwyddiannus, ysgogol a llawn syniadau ac rwy’n gobeithio medru annog rhai syniadau a thrafodaethau yn dilyn fy nghyfraniad heddiw.
Wrth deithio yma heddiw, cefais fy hudo gan brydferthwch anhygoel yr ardal hon. Glaw neu hindda, mae’n werth ei weld ond mae’n bwysig bod y cyfan yn cael ei reoli’n gywir a’i fod ar gael i gymaint o’r boblogaeth â phosib. Fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei gyflwyniad, rwy’n caru’r mynyddoedd - dringais y rhan fwyaf o’r mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri a chefais fwynhad arbennig wrth ddringo at ymyl y bowlen ar gopa Kilimanjaro yr haf hwn. Rwyf wedi ymweld y tri Pharc Cenedlaethol yn fy swyddogaeth broffesiynol ac ar fy liwt fy hun. Yn wir dechreuais gerdded o ddifrif ar lwybrau arfordirol Penfro rhyw flwyddyn wedi iddynt agor pan oeddwn yn 15 mlwydd oed. Rwy’n gwerthfawrogi pa mor werthfawr ydynt fel adnodd i’r bobl sy’n byw yno ac i’r miliynau o bobl sy’n ymweld ac yn dychwelyd i fwynhau eu nodweddion arbennig.
Yr hyn hoffwn ei wneud heddiw yn fy nghyfraniad yw canolbwyntio ar rôl awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol wrth gyflawni agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyflwynir yn y ddogfen Cymru’n Un. Mewn llywodraeth glymbleidiol, rydym yn benderfynol i sicrhau fod yr ymrwymiadau a osodwyd gennym yn Cymru’n Un yn cael eu cyflawni ac felly mae gennym raglen weithredol brysur dros y pedair blynedd nesaf. Y prif feysydd perthnasol i chi yw yn amlwg eich cyfraniad cadarnhaol wrth hyrwyddo twristiaeth, cefnogi’r fenter i sicrhau cymunedau byw a byrlymus, yr angen i ymdrin â’r diffyg mewn tai fforddiadwy safonol yng Nghymru ac mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol rôl gynllunio hanfodol bwysig i’w chwarae yma, ond, nid yn unig o safbwynt cynllunio, ond hefyd i gynorthwyo gyda’n uchelgais y gall pobl ym mhob cymuned yng Nghymru fforddio ty o safon. Mae diogelu a hyrwyddo amgylchedd cyfoethog ac amrywiol Cymru nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn allweddol, ac felly hefyd yr angen i ymdrin â newid hinsawdd, sef un o fy mhrif flaenoriaethau. Cyn i mi ddod yma heddiw rhoddais anerchiad mewn gweithdy yn Llandudno yn delio’n benodol ag erydiad arfordirol a rheolaeth llifogydd yng Ngogledd Cymru. Yn fuan yn y flwyddyn newydd bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi map cyfeiriol yn seiliedig ar waith ymchwil eang sy’n ymrwymo i godi’r targedau ynni o adnewyddon. Bydd gan ddyfodiad llwybr arfordirol Cymru ran bwysig iawn i’w chwarae i annog pobl o wahanol gefndiroedd i fwynhau amgylchedd naturiol Cymru ac i fynd allan i gefn gwlad. Bydd gan Awdurdodau Parc Cenedlaethol Eryri a Phenfro hefyd ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth.
Nawr, newid hinsawdd yw un o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu’r byd ac mae delio â’r broblem yn brif flaenoriaeth i’r llywodraeth hwn. Mae hyn yn ddiddorol iawn i mi, fel gweinidog newydd; roeddwn wedi clywed beth oedd gan y gwyddonwyr i’w ddweud am newid hinsawdd a doedd y wybodaeth ddim yn syndod, ond, fel sawl un arall yn sicr, doeddwn i ddim yn cymryd cymaint â hynny o sylw ac roeddwn yn rhy brysur yn fy ngwaith fel Gweinidog Addysg i feddwl am effaith newid hinsawdd a sut y byddai gwaith Llywodraeth y Cynulliad yn cael effaith arnom ni fel unigolion neu o fewn ein cymunedau. Ond, ers i mi ddechrau yn fy rôl newydd, gan ddarllen yn helaeth ym mhob agwedd o fy mhortffolio, mae’r ystadegau, y dystiolaeth newid hinsawdd ac wrth gwrs yn ddiweddar Al Gore a Chadeirydd y Panel Cenedlaethol ar gyfer Newid Hinsawdd yn ennill Gwobr Nobel, yn creu darlun gwbwl glir a phryderus.
Yn y gweithdy llifogydd y bore ‘ma, mi fues i’n trafod y farn y bydd codiadau yn lefel y môr o ryw fetr yn digwydd o fewn canrif. Cododd dyn profiadol iawn ar ei draed a datgan ‘Yr isafswm yw hynny’. Gall y codiad yn lefel y môr fod yn llawer iawn uwch na hyn ac os edrychwch chi ar fapiau haenol o Gymru, byddai codiad o hanner metr yn lefel y môr yn achosi problemau sylweddol ac unrhyw beth yn uwch na hynny yn achosi problemau llywodraethol mawr o safbwynt ein perthynas â’n cymunedau, pa gymunedau y gallwn weithio gyda nhw, sut y bydd angen i ni edrych ar systemau atal llifogydd hollol newydd gan golli tipyn o dir er mwyn medru diogelu ein cymunedau. Bydd angen i ni ymdrin â’r materion hyn mewn ffyrdd gwbwl newydd - edrychwch ar y patrwm tywydd dros y misoedd diwethaf ac edrychwch ar y llifogydd y cafodd Lloegr - braf fyddai bod mewn sefyllfa o fedru dweud wrthych ein bod ni yng Nghymru mewn sefyllfa o fod wedi ymbaratoi a diogelu rhag y llifogydd, ond na nid dyna’r gwirionedd yn ôl ein swyddogion. Petai’r llifogydd wedi taro Cymru, petai’r glaw mawr diddiwedd a gafodd Lloegr wedi dod i Gymru, byddai llifogydd tebyg iawn wedi digwydd yma hefyd.
Rydym yn wirioneddol ymdrechu i fod yn fwy parod, a dyma ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r mater. Nid wyf yn derbyn y farn gan rai, sef ein bod yn wlad fechan ac o ganlyniad bydd ein dylanwad ar y mater yn bitw ac felly gallwn ddibynnu ar eraill i gymryd yr awenau. Nid dyma yw’r sefyllfa o gwbwl. Rhaid i ni ddangos ein bod yn benderfynol y gallwn ymateb yr her a dyma wrth gwrs pam y mae llywodraeth Cymru’n Un wedi rhoi targedau anodd iawn i’w hun yn ogystal â’r hyn sydd ar fin cael ei ryddhau drwy’r Mesur Newid Hinsawdd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines yr wythnos hon.
Mae gennym dargedau o leihad o 3% mewn rhyddhau nwyon ty gwydr o’r flwyddyn 2011 a lleihad o 3% yn flynyddol yn y gwaith yr ydym yn ei wneud. Rydym yn sefydlu comisiwn newid hinsawdd i Gymru gan gyfarfod am y tro cyntaf ar Ragfyr 10fed. Rydym yn chwilio am eich arbenigedd chi ac eraill i gefnogi gwaith y comisiwn. Rydym wedi rhoi ymrwymiad i ni’n hunain i ddatblygu targedau ar niwtraledd carbon mewn adeiladau cyhoeddus, cefnogi coedlannau cynhenid sy’n medru gweithio fel sinciau carbon. Ni allwn frwydro yn erbyn newid hinsawdd ar ben ein hunain gan fod nifer o’r pwyntiau gweithredu y tu hwnt i’n rheolaeth ni, ond bydd cydweithio a chael cyfraniadau cadarnhaol gan y sector fusnes cyhoeddus, y sector wirfoddol, sefydliadau anllywodraethol, cymunedau ac unigolion, yn hanfodol os dymunwn weld effaith wirioneddol. Dyma pam rydym yn bwriadu cefnogi cymunedau, creu pedwar eiriolwr newid hinsawdd ifanc ac mae’r gystadleuaeth honno ar agor tan ddiwedd yr wythnos hon i rai sydd rhwng 11-18 mlwydd oed yn y gobaith y gall y rhai hyn ddod ymlaen i helpu i ledaenu’r neges i’w cyfoedion. Dyma pam yr hoffem weld pob ysgol yng Nghymru yn dod yn eco-ysgol. Gellwch chi chwarae rhan allweddol bwysig drwy sicrhau fod newid hinsawdd yn aros ar yr agenda. Wedi’r cyfarfod hwn byddaf, gyda grwp llai, sut y gallwn gadw newid hinsawdd ar yr agenda ar sail papur gan y tri Pharc. Rhaid i ni ddal ati efo’r mater hwn.
Yn ychwanegol, ac fel yr amlinellir yn natganiad polisi’r Parc Cenedlaethol ac sydd wedi cael ei drafod gennych eisoes yn y gynhadledd hon, disgwyliaf i chi edrych yn benodol ar y goblygiadau posib newid hinsawdd ar gyfer eich ardaloedd chi, i chwarae rôl briodol wrth lunio cynlluniau rheoli risg ar gyfer yr ardaloedd hyn ac i gyfrannu’n gyffredinol i’r cynllun addasu newid hinsawdd i Gymru.
Ac wedi’r seminar ar y testun hwn a gynhaliwyd yn Newcastle yn gynharach eleni pan drafodwyd ystod eang o opsiynau ymarferol posib gan Barciau Cenedlaethol, hoffwn weld y Parciau Cenedlaethol yn llunio cynlluniau gweithredu ar gyfer hyn. Gwn fod adnoddau Awdurdodau’r Parciau yn brin ond mae newid hinsawdd yn fater y gallwn oll ymdrin ag o a gwn eich bod i gyd yn gweithio ar hyn, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Yn gwbwl fwriadol, pan gefais fy mhenodi, rhoddwyd yr elfennau canlynol - amgylchedd, ynni, cynllunio, dwr, gwastraff, tai i mewn i un portffolio gan roi’r cyfrifoldeb corfforaethol dros newid hinsawdd a’r cyfrifoldeb corfforaethol dros ddatblygu cynaladwy gyda’i gilydd. Mae agenda newid hinsawdd wedi ei gysylltu’n agos â’r angen i gael y cydbwysedd orau o ddarpariaeth ynni i Gymru tra hefyd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Rydym i gyd yn gytûn ac yn glir ynglyn â’r dymuniad i gryfhau cynhyrchu ynni adnewyddol a rhoi gwell pwyslais ar gadwraeth ac ynni mwy effeithlon. Mae ymgyrch Cymru Un Blaned y WWF yn dangos yn glir, os awn ymlaen heb newid ein dull o ganfod adnoddau ynni ychwanegol, blwyddyn ar ôl blwyddyn, yna byddwn mewn gwirionedd angen cynnydd o 30% yn yr adnodd ynni hwnnw hyd yn oed i ddal ati ar y raddfa bresennol. Wel mae hyn yn amhosib ac ni fydd yr ynni hwn ar gael gan y cyflenwyr ynni traddodiadol ac mae’n rhaid i ni felly wneud yn siwr, cyn belled ag y medrwn er mwyn diogelu ein hynni, y gall Gymru ddibynnu ar adnoddau ynni adnewyddol. Pan gyhoeddwn ein map llwybr ynni fe welwch ein dyhead ynglyn â sicrhau fod Cymru yn medru troi at nifer o adnoddau ynni adnewyddol hunan gynhaliol.
Mae’r ddogfen Cymru’n Un hefyd yn sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo i gynyddu targedau ynni adnewyddadwy yn seiliedig ar gyfres o adnoddau a ddiffinnir yn fap llwybr newydd a gyhoeddwyd. Ein bwriad yw ymgynghori ar y map llwybr ynni yn fuan a chyn i ni gyhoeddi hwn a chyn i ni wybod beth yw canlyniadau’r ymgynghori a chyn, yn sgil hynny, y bydd gennym strategaeth ynni, ni fedrwn gychwyn ar y gwaith gan na fydd strategaeth mewn grym i gefnogi’r fenter. Rwy’n awyddus iawn i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fynd ati i geisio canfod a datblygu mathau eraill o ynni adnewyddadwy yn y Parciau Cenedlaethol. Yn syml, oherwydd natur y Parciau Cenedlaethol, rwy’n gobeithio y byddwch yn arwain y ffordd gan ddangos sut y gallwn, yn fuan iawn, ddibynnu ar adnoddau ynni adnewyddadwy.
Mae’r agenda sicrhau mynediad, fel y gwyddoch, yn un arall o fy mhrif flaenoriaethau a hoffwn weld mwy o bobl ar gefn beic ac yn cerdded a hoffwn hefyd weld a allwn ni ymestyn y gweithgareddau hyn i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru. Gwn eich bod yn gweithio’n galed iawn wrth geisio cyrraedd cynulleidfaoedd ymylol, sef ceisio cael pobl i brofi’r cefn gwlad a’i fwynhau fe chi a fi, yn hytrach na’i ofni. Yn allweddol i’r agenda yw nid yn unig y cwestiwn o gael gwared â’r rhwystrau ond hefyd y rhagfarnau hynny sy’n creu rhwystrau. Mae angen i ni ganolbwyntio ar gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl heb boeni am gefndir neu allu corfforol gan fwynhau cefn gwlad a theimlo’n well ac wedi cael croeso.
Elfen allweddol yn hyn o beth yw ein hamcan Cymru’n Un mewn perthynas â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan gan ein bod yn gwybod o brofiad ym Mhenfro, bod yna fanteision sylweddol i gymunedau yn yr ardaloedd arfordirol sy’n agos at y llwybr. Deallaf fod y llwybr arfordirol ar Ynys Môn eisoes yn creu buddion sylweddol a hoffem weld y buddion hyn yn ymestyn ar draws Gymru gyfan a’r bwriad yw agor y llwybr arfordirol erbyn cychwyn y gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Mewn gwirionedd hoffem wneud y gwaith cyn hynny ond cawn weld. Mae cyllideb ddrafft 2007-08 y Cynulliad yn cynnig adnoddau ychwanegol all helpu i symud y gwaith yn ei flaen yn gynt a hoffwn hefyd weld sut y bydd deddfwriaeth newydd yn cynorthwyo’r rhaglen gwella mynediad presennol. Yn anffodus mae rhai pobl yn ceisio datgan mai cynllun yw hyn gan Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio deddfwriaeth i adeiladu llwybr o amgylch Cymru, heb ystyried barn ffermwyr lleol a pherchenogion tir. Nid dyma yw ein bwriad ac mae’n bwysig i ni fedru dangos, yn union fel ag y dangosodd gwaith Deddf CROW, a chreu Llwybr Arfordirol Penfro, llwybr Arfordirol Ynys Môn, Llwybr Arfordirol Ceredigion, a’r gwaith sy’n cefnogi mynediad Tir Gofal mewn perthynas â’r Llwybr Treftadaeth yr Arfordir yn Ne Cymru. Gwelsom fod cytundebau gwirfoddol yn llwyddiannus iawn a hoffem wneud mwy yn y cyfeiriad hwn. Pwrpas y ddeddfwriaeth fydd ein helpu i wneud cynnydd yn yr ardaloedd hynny lle nad yw’n bosib llwyddo i gael cytundeb sydd o fudd i’r perchennog tir. Felly'r ffordd ymlaen mewn sefyllfa o’r fath yw datblygu deddfwriaeth ‘poced gefn’ yn hytrach na deddfwriaeth amlwg a chadarn. Gall deddfwriaeth ‘poced gefn’ ein helpu yn yr achosion hynny lle ceir trafferth cysylltu ambell i acer a mawr obeithiaf y gellwch weithio gyda ni oherwydd yr un egwyddor sy’n wir ar gyfer unrhyw sefyllfa, nid yn unig llwybr arfordirol, y cam pwysig yw cynnig cyfleoedd yng nghefn gwlad. Os bydd pobl yn cychwyn defnyddio’r cyfleoedd hyn, byddant yn mynd ymlaen at gyfleoedd eraill hefyd fydd yn gymorth mawr i’r agenda hwn yng Nghymru.
Roeddwn yn falch iawn medru perswadio Rhodri Morgan, a doedd hi ddim yn anodd ei berswadio, i roi’r portffolio beicio i mi hefyd, gan fod y gweithgareddau hyn oll yn gysylltiedig ac rwy’n awyddus i’r Parciau Cenedlaethol wneud mwy i gefnogi’r weithgaredd hon. Fe wyddoch, o siarad gyda’ch swyddogion, fy mod wedi bod yn gofyn ym mhob cyfarfod hyd yma sawl beic all gael ei gario ar gefn bws i mewn i’r Parciau Cenedlaethol. Hoffwn sicrhau hefyd ein bod yn medru cynnal trafodaethau gyda Ieuan Wyn Jones, oherwydd ei swyddogaeth Trafnidiaeth, ynglyn â sut y gallwn gludo beiciau ar y trenau sydd yn dod i mewn i’r ardaloedd perthnasol. Mae gennym lwybrau ardderchog ar gyfer cerddwyr a llwybrau beicio ar hyd Cymru gyfan. Yn bersonol, nid fel Gweinidog, yn cefnogi cais Sustrans ar gyfer arian cyfalaf y loteri i ymestyn llwybrau cerdded a beicio, ac mae’n bwysig i ni hyrwyddo Cymru fel cyrchfan sy’n wyrdd ac yn broffesiynol ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Gwn fod cyfleoedd arbennig yma a hoffwn weld sut y gallwn ni, fel Llywodraeth y Cynulliad adeiladu ar hyn.
Mae’r gwaith ar fynediad i’r anabl a gwblhawyd yn ddiweddar gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gan ddefnyddio ein hadnoddau cyfalaf ychwanegol, wedi rhoi nifer o gyfleoedd defnyddiol i’r anabl sy’n ymweld ac yn mwynhau’r Parciau. Mae hyn yn cynnwys mannau lle nad oedd hi’n bosib iddynt ymweld â nhw o’r blaen ac rwy’n ddiolchgar iawn am hyn ac mae’n sefyllfa gyffrous iawn medru canfod ffyrdd i greu mynediad i’r Parc i’r bobl hynny sy’n anabl.
Hawliau Tramwy - dyma fater pwysig arall. Rhaid i ni sicrhau gwelliannau cyson i’n rhwydwaith o Hawliau Tramwy hanfodol bwysig. Gwelwn fod cynlluniau gwelliant yr Hawliau Tramwy statudol yn helpu i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol yr ydym angen eu gwneud. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd un o’r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu un o’r cynlluniau ac mae cyllideb ddrafft y Cynulliad yn cynnig adnoddau ychwanegol ar gyfer y cynlluniau. Rwyf hefyd yn awyddus i weld gwell mynediad hamddena i’r cyhoedd i afonydd a llynnoedd Cymru ac unwaith eto, fe gyda’r dull Llwybr Arfordirol, mae nifer o fanteision i’w cael er budd economi Cymru os awn ati mewn ffordd gyfrifol a chynaladwy. Rydym yn gweithio, fel y gwyddoch, gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i ddatblygu cynllun strategol newydd ar fynediad i ddwr er mwyn canfod cyfleoedd newydd posib. Rydym hefyd yn cefnogi ystod o brosiectau enghreifftiol sy’n ymwneud â mynediad i ddwr. Lansiais un ohonynt ar yr Afon Wysg, yn ymwneud â mynediad canw a gefnogwyd yn gryf gan y gymuned bysgota hefyd. Yn ddiweddar roeddem yn gobeithio cwblhau pethau ar gyfer yr Wysg a bellach rydym yn trafod gwella mynediad ar y Fawddach a’r Glaslyn y Eryri. Yn amlwg mae adnoddau dwr yn y Parciau yn amrywiol a sylweddol ac felly bydd y gwaith pellach ar y cynllun strategol yn berthnasol iawn i Awdurdod y Parciau Cenedlaethol ac rwy’n sicr y byddwch yn dymuno chwarae rhan flaenllaw wrth symud y fenter hon yn ei blaen.
Hoffem sicrhau, a minnau yn bendant o gofio bod fy mhortffolio yn cynnwys datblygu cynaladwy, ein bod yn rheoli’r nifer fawr o bobl sy’n ymweld â’r Parciau Cenedlaethol mewn modd gynaladwy, felly mae gennym ddiddordeb mawr yn y gwaith yr ydych yn ei wneud ar drafnidiaeth gynaladwy a mentrau i ymwelwyr sy’n gynaladwy. Mae hi mor hawdd ychwanegu’r gair cynaladwy o flaen geiriau eraill er mwyn ymddangos yn fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar ar agenda’r llywodraeth, ond gwn fod eich grwp chi yn mynd ati mewn ffordd onest. Rydych yn trafod trafnidiaeth gynaladwy a mentrau i ymwelwyr sy’n gynaladwy. Cysylltais yn ddiweddar gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynglyn â’u cynllun datblygu trafnidiaeth gynaladwy i ymwelwyr ac rwy’n awyddus i gael gwybod mwy am waith Awdurdodau’r Parciau eraill ar yr elfen bwysig hon ac rwy’n siwr y cawn drafod hyn yn fuan.
Mae twristiaeth gweithgareddau yn un o gryfderau Cymru fel cyrchfan twristiaeth ac yn faes arbenigol sy’n tyfu yma. Mae canran uchel o’r gweithgareddau hyn yn digwydd o fewn ffiniau ein Parciau Cenedlaethol gan roi cyfleoedd i gymunedau a busnesau yn y Parciau elwa yn economaidd. Rwyf wedi trafod beicio eisoes ond hoffwn bwysleisio bod angen i’r profiad y mae pobl yn ei gael yn y Parc Cenedlaethol fod cystal ag ansawdd yr amgylchedd naturiol. Mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth wrth sicrhau fod gweithgareddau anturus a hyd yn oed mwynhad hamddenol pobl yn cael ei ddatblygu’n gynaladwy. Hoffwn gymryd y cyfle hwn unwaith eto i longyfarch Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ennill gwobr arbennig y Siarter Ewropeaidd am dwristiaeth gynaladwy mewn ardaloedd gwarchodedig, y Parc Cenedlaethol Cymreig cyntaf i gyrraedd y nod hwn a braf fyddai gweld y tri Pharc yn ennill y wobr.
Hoffwn yn awr droi at faes sydd yn fwy o her yng nghyd-destun y gwaith yr ydych chi yn ei wneud, ond yn faes serch hynny sydd yn agos at fy nghalon fel Gweinidog sy’n gyfrifol am sicrhau fod gennym 6,500 o dai newydd fforddiadwy ychwanegol o fewn pedair blynedd. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r diffyg tai safonol a fforddiadwy yng Nghymru, yn yr ardaloedd trefol a chefn gwlad, yn enwedig yn eich ardaloedd chi. Rydym wedi trafod hyn o’r blaen. Rydym yn ymwybodol hefyd, os edrychwn ar y ffordd y mae prisiau tai yn codi ac ar yr ardaloedd lle mae prisiau yn codi’n anghyson, mae’n amlwg fod pobl yn dymuno byw yn y Parciau Cenedlaethol, sef yn rhai o’n ardaloedd cefn gwlad prydferthaf. Felly mae’n rhaid i ni edrych ar dai fforddiadwy yn drylwyr iawn. Yn ddiweddar, cyhoeddais rai newidiadau allweddol i bolisi tai a chynllunio gyda’r bwriad o gael nifer uwch o dai fforddiadwy ac rwy’n sicr y bu rhai o’r bobl yn yr ystafell hon i’r seminarau a gynhaliwyd gennym ar hyd a lled y wlad. Mae Cymru’n Un yn ein hymrwymo i ddarparu 6,500 o dai fforddiadwy newydd ac felly rydym yn edrych yn ofalus ar sut y gall buddsoddiad yn y sector rhentu cymdeithasol a pherchentyaeth cost isel helpu i godi’r nifer o dai fforddiadwy safonol. Rhoddodd y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd yr wythnos hon £10 miliwn i’r awdurdodau tai i ddarparu ein hymrwymiad uchelgeisiol ond hanfodol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Ni fydd y rhaglenni grant tai cymdeithasol yn medru darparu’r tai ychwanegol hyn i gyd felly mae’n rhaid i ni edrych yn fwyfwy ar y system gynllunio a’r sector breifat i chwarae rhan.
Yn amlwg nid awdurdodau tai ydych chi, ond yr elfen bwysicaf yw’r cyfrifoldeb cynllunio sydd gan yr awdurdod ac mae gennych landlordiaid cofrestredig yn gweithio yn eich ardal. Yn amlwg mae gennych adeiladwyr tai yn gweithio yn eich ardal felly rydych yn bartneriaid allweddol yn y broses o ddarparu tai fforddiadwy. Gan fod gennym dystiolaeth o’r angen am dai a bod yr angen hwn ar draws Gymru gyfan, yna rhaid i’r cynlluniau datblygu lleol a’r penderfyniadau cynllunio ddangos ymrwymiad er mwyn sicrhau fod tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu nawr. Y llynedd cyhoeddwyd pecyn cynhwysfawr o fesurau gennym gydag enghreifftiau o sut y llwyddwyd i ddarparu tai fforddiadwy drwy ddefnyddio dulliau megis cytundebau Adran 106 a thir cyhoeddus. Roedd y pecyn hwn yn cynnwys pecyn cymorth (tool-kit) tai fforddiadwy, datganiadau polisi cynllunio dros dro'r gweinidog tai (sef y mapiau tai) a chyngor technegol (nodyn 1) ar astudiaethau ar dir sydd ar gael ar gyfer tai, a nodiadau cynghorol ar gynllunio a thai fforddiadwy. Rydym yn hyderus y bydd y pecyn o fesuriadau yn golygu mwy o dai fforddiadwy yn y tymor canolig gan nad yw’r cynlluniau datblygu lleol yn dod yn weithredol am rai blynyddoedd eto ond rhaid gwneud mwy yn awr. Yn y ddogfen Cymru’n Un, cyhoeddwyd ein bwriad y bydd angen i awdurdodau lleol baratoi cynlluniau gweithredu ar dai fforddiadwy ac mae swyddogion yn paratoi cyngor manwl ar frys sy’n gosod y broses y bydd angen ei dilyn ynghyd â chynnwys y cynlluniau. Yn naturiol bydd gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ran i’w chwarae wrth weithredu’r cynlluniau hyn. Rydym angen i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’r awdurdodau cynllunio lleol sicrhau fod ganddynt y polisïau cynllunio cywir mewn grym, i roi sylfaen gadarn ar gyfer y trafodaethau gyda datblygwyr i fedru darparu tai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys gosod lefel trothwy priodol fel bod unrhyw lefel uwchben hyn yn gorfodi darparu canran o dai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys cwotas, hynny yw'r canran o dai fforddiadwy i’w clustnodi o safleoedd perthnasol. Lle nad oes polisïau cynllunio addas mewn grym rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion adnabod dulliau posib i ddatrys y broblem hon cyn gynted ag y bo modd. Yn syml iawn ystyr y frawddeg ddiwethaf yw, os nad yw awdurdodau cynllunio yn cwrdd â’u gofynion mewn perthynas â’u dyraniad tai 5 mlynedd a’u cynlluniau gweithredu tai fforddiadwy, yna bydd unrhyw gais am dy yn yr ardal honno nad yw’n mynd yn groes i anghenion y polisi cenedlaethol yn cael ei gymeradwyo gennym.
Felly mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith i sicrhau fod popeth dan reolaeth ac eich bod yn cwrdd â’ch goblygiadau mewn perthynas â thai. Fel enghraifft, cwblhaodd Prifysgol Sheffield ddarn o ymchwil yn ddiweddar ar ddefnydd a gwerth cytundebau Adran 106 yng Nghymru ac mae’r ymchwil yn rhoi argraff werthfawr o’r nifer o dai fforddiadwy a neilltuwyd drwy’r system gynllunio yn 2005-06. Yn ystod y flwyddyn honno’n unig ddim ond 869 o dai fforddiadwy a oedd wedi eu cynnwys yn y cytundebau cynllunio gyda nifer o awdurdodau cynllunio yn adrodd nad oeddynt wedi llwyddo i neilltuo'r un ty fforddiadwy drwy’r cytundebau Adran 106. Credaf fod pethau wedi gwella’n arw ers hynny ac efallai y byddai rhai ohonoch sydd â diddordeb brwd yn y mater hwn fwrw golwg ar yr ymchwil hwn gan Brifysgol Sheffield. Ond hoffem ni, yn Llywodraeth y Cynulliad, weithio gyda chi i adeiladu ar ganfyddiadau’r ymchwil i adnabod ac i gyflwyno cyfres o bolisïau. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion gysidro’r posibilrwydd o drefnu hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau cynllunio i wella sgiliau trafod ac i gynhyrchu arweiniad ar yr arfer orau o weithredu cytundebau Adran 106 er mwyn sicrhau tai fforddiadawy.Hoffem annog swyddogion i rannu syniadau da o weithredu, defnyddio technegau o werthuso cyllid sy’n ymdrin ag economeg safle ac yn dweud wrth swyddogion faint o dai fforddiadwy all unrhyw ddatblygiad penodol ei ryddhau. Mae’r awdurdodau hynny sydd â swyddog neilltuol ar gyfer Adran 106 yn sylweddoli gwerth cael swyddog o’r fath a’i fod yn talu ar ei ganfed. Efallai bod hyn yn elfen y dylai’r tri Pharc ei drafod ar y cyd.
Mae gennym brotocol tir o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n golygu ein bod yn gofyn i’n holl adrannau ryddhau tir ar gyfer tai fforddiadwy ar dir sydd yn berchen i Lywodraeth Cynulliad Cymru; mae hyn yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth sydd eisoes wedi cwblhau’r gwaith hwn a chynnig tir i’w ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy. Mae gan y Gwasanaeth Iechyd lawer iawn o dir, yn aml mewn ardaloedd cefn gwlad ac mewn Parciau Cenedlaethol a byddaf yn trefnu cyfarfod gyda’n holl swyddogion a fy nirprwy weinidog cyn y Nadolig i weld faint o dir a ellir ei ryddhau gan Lywodraeth y Cynulliad o fewn cynllun y protocol tir.
Rydym yn ymwybodol iawn o’r problemau neilltuol mewn ardaloedd gwledig fel y Parciau Cenedlaethol ble nad yw’r safleoedd tai yn ddigon mawr i greu’r arian sydd ei angen i helpu gydag adeiladu tai fforddiadwy yn y dulliau traddodiadol. Er hyn, mae ymchwil ar Adran 106 hefyd wedi dangos nad yw awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud y defnydd gorau o’r polisïau presennol all ganiatáu i safleoedd gwledig gael eu heithrio ac felly eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer y gymuned am byth. Y llynedd fe lwyddom i gyflwyno’r hawl i adnabod safleoedd yn neilltuol ar gyfer tai fforddiadwy yn unig. Rydym yn parhau, fel y gwyddoch mae’n debyg, i gefnogi gwaith yr hyrwyddwyr tai gwledig sydd yn beth pwysig iawn yn eich cyd-destun chi wrth iddynt weithio ledled Cymru i ganfod atebion i broblemau tai gwledig yng Nghymru. Ein bwriad yw ymestyn y gwasanaeth hwn fel modd o gael gwell dealltwriaeth o anghenion cymunedau gwledig gan roi arian hefyd tuag at ddatblygu ymddiriedolaethau tir cymunedol ar sail peilot gyda’r bwriad o sicrhau fod cymunedau yn adeiladu ac yn rheoli preswylwyr y dyfodol mewn tai fforddiadwy.
Rwyf wedi siarad ynglyn â thai yng nghyd-destun ei gwaith chi fel awdurdodau cynllunio lleol ond fe ddylwn hefyd nodi’r mater parhaus o’r gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd a’r datblygwyr. Er bod gwelliannau wedi eu cwblhau gan y gwasanaethau cynllunio a ddarperir gan awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, yn amlwg hoffem sicrhau bod y gwelliannau hynny yn parhau i ddatblygu felly byddwn yn gofyn i chi i barhau i weithio’n galed i gynnal gwasanaeth cynllunio sydd yn dryloyw ac yn effeithlon ac sy’n gwneud penderfyniadau cywir a chyson gan roi hyder i’r gymuned. Rydych yn parhau i wella yma ond mae mwy o waith i’w wneud eto. Fe fyddwch yn ymwybodol fod mesur cynllunio newydd wedi ei gyhoeddi yn Araith y Frenhines a bydd y mesur hwnnw’n dod â nifer o rymoedd rhwydwaith newydd fel y’i gelwir, a fydd yn galluogi i Gymru osod ei chanllawiau ei hun yn y maes cynllunio. Felly mae cyfleoedd sylweddol ar gael i ni ar hyn o bryd ynglyn â’r ffordd y gallwn yrru’r agenda hon yn ei blaen, a chawn weld a fydd angen unrhyw ddeddfwriaeth newydd allwn ei lunio yn Llywodraeth y Cynulliad.
Dyna ni felly, mae agenda mawr yn ein hwynebu a llawer i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fod yn rhan ohono a chyfrannu tuag ato. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chi wrth weithredu agenda Cymru’n Un ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr.

