Seminar Aelodau Blynyddol Capcc

6-7 Tachwedd, 2007
Plas Tan y Bwlch, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Ein lle yn y Gymru newydd

Cyflwyniad

Bob blwyddyn mae Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn mynychu seminar er mwyn astudio ac ymdrin â chyfeiriadau a mentrau newydd. Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru hefyd yn mynychu’r seminar.

Plas Tan y Bwlch study centre in Snowdonia National Park © SNPA

Yn 2007 trefnwyd a chynhaliwyd y seminar gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch rhwng y 6ed a’r 7fed o Dachwedd. Cyn hyn, yn ystod y misoedd blaenorol, bu pwyslais sylweddol ar waith y Parciau Cenedlaethol yn cwrdd â blaenoriaethau cenedlaethol a mentrau llywodraethol yn unol â’r hyn a amlinellwyd yng nghyhoeddiad Cymru’n Un a Datganiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Parciau Cenedlaethol. Yn ychwanegol, mae darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon yn unol ag adroddiad Beecham yn her sylweddol i’r Awdurdodau. Mewn cyfnod o gryn newid yng Nghymru, pwrpas y Seminar oedd gofyn i’r Parciau Cenedlaethol ddatgan eu “Lle yn y Gymru Newydd” yn nhermau polisi, cyfleoedd a dysgu.

Barn yr Awdurdodau yw y gallent gyfrannu tuag at Gymru well tra hefyd gwrdd â’u pwrpasau statudol. Yn wir, trwy astudio’r meysydd llafur presennol ac ailedrych arnynt a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu, gall y Parciau lwyddo i oresgyn nifer o’r heriau allweddol sydd yn wynebu’r genedl heddiw ac yn y dyfodol.

Mae’r tudalennau canlynol yn gopi o’r prif gyflwyniadau a roddwyd dros y deuddydd.

capcc

Manylion cyswllt

126 Stryd Bute
Caerdydd
CF11 7AG

Rhif ffôn: 029 2049 9966

Ebost