cynhadledd “tuag at ddyfodol gwyrddach” ccgc
Yn y Future Inn, Caerdydd, Dydd Mercher y 4ydd o Dachwedd 2009
Agendâu

Cyflwyniad agoriadol Cadeirydd. John Lloyd-Jones - CCGC.
60 mlynedd: Profiadau a Gwersi at y dyfodol (safbwynt Cymru gyfan). Yr Athro Ian Mercer.

Ardaloedd Gwarchodedig yn cyflawni ar gyfer y dyfodol.Clive Bates - Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad.
Amlinelliad o adroddiad ‘Byw gyda’n Tirwedd’. Roger Thomas - Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Y Drefn Lywodraethol ac Ardaloedd Gwarchodedig. Sue Essex - Aelod o Fwrdd Cynnal Cymru.
Gweithdai
Defnydd Tir - Sut allwn ni gael rheolaeth tir cynaliadwy sy’n cynnig defnyddiau crai, bwyd a nwyddau amgylcheddol?
Iechyd a Lles - Sut all yr amgylchedd chwarae rhan gynyddol i wella iechyd corfforol a meddyliol? James Parkin - APCAP & Anne-Marie Beresford-Webb - CCGC.
Trosolwg o Broblemau Iechyd yng Nghymru
Newid Hinsawdd - Sut all ardaloedd gwarchodedig gynorthwyo i ymdrin â newid hinsawdd ac addasu iddo? (yn Gymraeg gyda chyfleusterau cyfieithu) Morgan Parry, Cadeirydd Cynnal Cymru.
Gwasanaethau a Nwyddau Ecosystemau - Sut ddylen ni ledaenu’r neges ynghylch yr amgylchedd fel ein system cynnal bywyd? Shaun Russell - Canolfan Amgylchedd Cymru.
Sylwadau clo
Yr Athro Ian Mercer
- Cryfhau’r cysylltiadau gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru/Awdurdodau Parciau Cenedlaethol/Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol - gyda’r olaf fel asiantiaid, fe fyddai gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru drosolwg unigryw o faterion tirwedd/defnydd tir. Nid oes unrhyw ardaloedd gwarchoedidg yn Valhalla, ond byddai Cymru gyfan angen labeli defnydd tir o hyd.
- Mae'n rhaid i’r Gweithlu ar gyfer y sbectrwm defnydd tir hwnnw gael ei ddiogelu ei hun, ac mae’n rhaid i ffermwyr deimlo fel eu bod nhw’n gyfrifol am y gwaith pan gant eu perswadio i gynnal yr asedau cyhoeddus ochr yn ochr â’u prif waith ac
- Mae’n rhaid i weddill y boblogaeth, gwledig a trefol, ddeall beth sydd ei angen i gynnal yr hyn sy’n rhoi pleser, her, dwr glân, man i storio carbon a threftadaeth iddyn nhw. Yn 2001, fe achosodd Clwy’r Traed ar Genau i bobl ddeall y cysylltiadau o fewn cefn gwlad; fe wnaeth Trothwy 21 (1993) Cyngor Cefn Gwlad Cymru alw am arddangosiad amgylcheddol gorfodol i’r holl israddedigion. Ein lle ni yw sicrhau bod y ddealltwriaeth honno’n tyfu.

