Polisi
Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru’n cydweithio fel Parciau Cenedlathol Cymru i gyfrannu at bolisïau’r Llywodraeth a allai gael effaith ar Barciau Cenedlaethol. Rydym ni’n defnyddio sawl dull gwahanol;
- Rydym ni’n ymateb i ymgynghoriadau perthnasol gan y Llywodraeth, Y Cynulliad a’r Senedd. Gellir dod o hyd i ystod o ymatebion yma;
- Rydym yn y broses o ddatblygu cyfres o ddatganiadau sefyllfa sy’n trafod ystod o faterion sy’n effeithio ar Barciau Cenedlaethol Cymru.
- Rydym ni’n trefnu neu’n cyfrannu at seminarau sy’n caniatáu i staff ac Aelodau’r Awdurdod Parciau Cenedlaethol i rannu arbenigedd ac arfer da o fewn sectorau sy’n berthnasol i’r Parciau Cenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech chi drafod cynnwys y tudalennau hyn, cysylltwch â Greg Pycroft, Swyddog Polisi Cymru.

