Parciau Cenedlaethol Cymru

Mae tri Pharc Cenedlaethol yn bodoli yng Nghymru, sy’n gorchuddio arwynebedd o 4122 cilomedr sgwâr. Mae hyn yn cynrychioli tua 20% o arwynebedd tir Cymru. Fe ddynodwyd Eryri yn 1951, Arfordir Sir Benfro yn 1952 a Bannau Brycheiniog yn 1957.
Fe grëwyd Parciau Cenedlaethol i amddiffyn y tirweddau mwyaf prydferth a mawreddog yn y D.U. Mae’r dynodiad statudol yn cydnabod pwysigrwydd cenedlaethol tirweddau o’r fath, ac yn rhoi graddfa uchel o amddiffyniad iddynt.
Mae ansoddau arbennig pob parc yn wahanol o ran cymeriad eu tirwedd, a’u treftadaeth hanesyddol a diwylliannol.
Caiff Parciau Cenedlaethol eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol, sy’n cynnwys Aelodau sy’n cael eu penodi gan awdurdodau cyfansoddol lleol (dau-draean) ag Aelodau sy’n cael eu penodi gan Llywodreath Cymru (traean).
Mae refeniw a chyllideb cyfalaf Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn deillio o Grant gan Llywodreath Cymru ar gyfer Parciau Cenedlaethol a gan awdurdodau cyfansoddol. Ceir llawer o arian ychwanegol o grantiau arbennig: e.e. o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ac o grantiau cymorth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac o incwm o ffioedd e.e. cynllunio a pharcio.
Mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyflogi cyfanswm o 328 o staff ar sail llawn amser. Yn 2006/07, £23.23m oedd gwariant blynyddol gros y tri Pharc.


