Parciau Cenedlaethol Cymru - Sut i ddod o hyd i ni

the pierhead building in cardiff bay

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn rhannu swyddfa gyda ANPA’r D.U, ac mae wedi ei leoli yn:

Enterprise House
126 - 127 Stryd Bute
Caerdydd
CF10 5LE

Edrychwch ar fap

Rheilffordd:

Mae gwasanaethau rheilffordd rheolaidd ar gael rhwng Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd, a Gorsaf Bae Caerdydd. I ddefnyddio’r gwasanaeth yma, bydd rhaid i’r ymwelwyr hynny sydd ddim yn teithio o’r Cymoedd newid yng Ngorsaf Caerdydd Canolog i fynd i Heol y Frenhines Caerdydd.

Mae Swyddfa ANPA’r D.U. gyferbyn â Gorsaf Bae Caerdydd.

Bysiau:

Gallwch chi ddal bws rhif 6 (y Baycar/”bendybus”) o du ôl i Orsaf Caerdydd Canolog. Mae sawl stop bws ym Mae Caerdydd nepell o Swyddfa ANPA’r D.U; ar bwys Swyddfeydd Cyngor Sir Caerdydd; ar bwys Canolfan Mileniwm Cymru; ar Stryd Bute ac ar bwys Gorsaf Bae Caerdydd.

Caiff Bae Caerdydd ei wasanaethu gan ddau wasanaeth rheolaidd arall sy’n mynd i ganol Caerdydd, sef rhif 1,2, 8 (Bae Caerdydd) 35 a 36, ac mae’r gwasanaethau yma’n mynd heibio sawl stop ym Mae Caerdydd.

Parcio Car:

Nid oes gan Swyddfa ANPA’r D.U. faes parcio.  Fodd bynnag, mae dau faes parcio aml-loriog ym Mae Caerdydd, ill dau o fewn 5 munud ar droed o Swyddfa ANPA’r D.U.

Maes parcio talu ac arddangos dau lawr Mermaid Quay, sydd ar Stryd Stuart, ar bwys Techniquest.

Maes parcio aml-loriog APCOA, oddi ar Stryd Pierhead, ar bwys Canolfan Mileniwm Cymru.

a view of cardiff bay

capcc

Manylion cyswllt

126 Stryd Bute
Caerdydd
CF11 7AG

Rhif ffôn: 029 2049 9966

Ebost