Cyflwyniad i Parciau Cenedlaethol Cymru

Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yw’r enw a roddir i’r tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo dibenion a diddordebau Parciau Cenedlaethol Cymru.

Ystyrir PCC yn rhan o deulu ehangach y Parciau Cenedlaethol yn y D.U. Mae’n darparu ffyrdd i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i gyfuno adnoddau ac i rannu gwybodaeth ymysg cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau, cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr sy’n dod i’r ardaloedd gwarchodedig hyn. Mae CAPCC yn bodoli mewn ymateb i’r amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth a pholisi a ddaeth i’r wyneb o ganlyniad i’r setliad datganoli, ac o ganlyniad i’r ffaith y trosglwyddwyd pwerau o Lywodraeth y D.U. i Lywodraeth Cynulliad Cymru.   

Nid oes gan PCC gyfansoddiad ffurfiol.  Caiff agenda strategol y Sefydliad ei gosod gan Bwyllgor Gweithredol sy’n cael ei weinyddu gan yr Awdurdod Parc sydd â Chadeirydd ac Ysgrifennydd/es.  Mae Gweithgor PCC wedi’i ffurfio o Gadeiryddion yr Awdurdod Parciau Cenedlaethol a’u dirprwyon.  Hefyd, mae Prif Swyddogion Gweithredol y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol a chynrychiolwyr o Llywodraeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yn aelodau o’r gweithgor. Fe wahoddir Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol i fynychu fel arsyllwr.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn gweithredu fel Trysorydd ar ran y gymdeithas.  Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro sy’n gyfrifol am weinyddu’r gyllideb, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ad-dalu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ar sail a gytunir.

the logos of the Welsh National parks, plus working in partnership message

capcc