Ynghylch CAPCC
Mae’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC). Mae PCC yn hyrwyddo pwrpasau a diddordebau tri Pharc Cenedlaethol Cymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri.
Mae PCC yn darparu ffyrdd i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddod o hyd i faterion sydd o ddiddordeb cyffredin a chytuno ar ddulliau o’u gweithredu. Caiff gwybodaeth a phrofiadau eu rhannu rhwng cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau, cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr i’r ardaloedd hyn sydd wedi’u diogelu.


